Charles Roe
Charles Roe | |
---|---|
Lloegr, Lerpwl-Macclesfield HALFPENNY TOKEN 1795 | |
Ganwyd | 7 Mai 1715 Castleton |
Bu farw | 3 Mai 1781 Macclesfield |
Dinasyddiaeth | Teyrnas Prydain Fawr |
Alma mater | |
Galwedigaeth | entrepreneur |
Diwydiannwr o Loegr oedd Charles Roe (7 Mai 1715 - 3 Mai 1781).
Chwaraeodd ran bwysig wrth sefydlu'r diwydiant sidan yn Macclesfield, Swydd Gaer ac yn ddiweddarach daeth yn rhan o'r diwydiannau mwyngloddio a metel.
Bywyd cynnar
[golygu | golygu cod]Ganed Charles Roe yn Castleton, Swydd Derby, yr ieuengaf o wyth o blant y Parch Thomas Roe, ficer Castleton, a'i wraig Mary née Turner. Bu farw ei dad pan oedd yn wyth oed a symudodd y teulu i Stockport, Swydd Gaer. Yn fuan wedi hynny bu farw ei fam hefyd ac aeth Charles i fyw gyda'i frodyr a'i chwiorydd yn Macclesfield. Yn ôl Dictionary of National Biography, credir iddo gael ei addysg yn Ysgol Ramadeg Macclesfield. Yn 1743-44, adeiladodd felin fwynio bach ar Park Green ac ym 1748, mewn partneriaeth â Glover & Co., felin fwy i gynhyrchu sidan ar Waters Green. Roedd y ddau'n seiliedig ar Lombe's Mill yn Derby. Roe oedd maer Macclesfield ym 1747-48.[1].
Bywyd personol
[golygu | golygu cod]Ym 1743, priododd Elizabeth, Elizabeth Lankford, merch o Leek, a ganwyd tri plentyn iddo. Bu farw Elizabeth ym 1750 a phriododd Roe Mary Stockdale ym 1752. Bu farw Mary ym 1763 a phriododd Roe Rachel Harriott ym 1766.
Roedd Charles Roe yn Gristion Efengylaidd. Gwahoddodd y Parch David Simpson i Macclesfield ac adeiladodd Christ Church iddo ymgymryd â'i weinidogaeth.[2]
Claddwyd Roe yng nghartref y teulu yn Christ Church. Mae cofeb gan John Bacon i'w gofio ar fur deheuol yr eglwys.[3]
Amgueddfa
[golygu | golygu cod]Mae Amgueddfa West Park, Macclesfield, yn cynnwys arddangosfa am ei fywyd.
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Smith, Dorothy Bentley; Woolrich, A. P. (2010) [2004], "Roe, Charles (1715–1781)", Oxford Dictionary of National Biography (Oxford University Press), http://www.oxforddnb.com/view/article/52384, adalwyd 5 Gorffennaf 2013 ((mae angen tanysgrifiad neu aelodaeth o lyfrgell gyhoeddus i ddarllen yr erthygl))
- ↑ Smith, Mark (2004), "Simpson, David (1745–1799)", Oxford Dictionary of National Biography (Oxford University Press), http://www.oxforddnb.com/view/article/25579, adalwyd 5 July 2013 ((mae angen tanysgrifiad neu aelodaeth o lyfrgell gyhoeddus i ddarllen yr erthygl))
- ↑ Thornber, Craig (3 December 2003), A Scrapbook of Cheshire Antiquities: Macclesfield, Christ Church, http://www.thornber.net/cheshire/htmlfiles/macclesfieldcc.html, adalwyd 28 November 2007